Sioe Gelf

Nos Fercher 05/11 am 21:30

Michael Payne

Michael PayneChwedloniaeth oesol arwyr a chewri sy’n ysbrydoli peintiadau olew yr artist Michael Payne o Ferthyr Tudful. A chewri llên gwerin sydd wedi dylanwadu ei waith mwyaf diweddar.

“Mae cewri yn dweud rhywbeth am chwedloniaeth pobl trwy’r byd ond mae cymeriadau llên gwerin Cymru hefyd yn dweud rhywbeth amdanom ni,” meddai Michael.

“Dwi ddim yn defnyddio pobl go iawn fel ysbrydoliaeth fel arfer, ond dwi’n defnyddio’r syniad o arwyr – a mae hyn yn fwy pwysig, dwi’n meddwl”
Michael Payne
Enillodd yr arlunydd, sy’n wreiddiol o ardal y Gyrnos, Ysgoloriaeth Artist yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1993. Mae e bellach wedi ymgartrefu yn Nowlais.

Yn y bôn y cyflwr dynol sy’n ei ddiddori meddai “ond mae hynny’n rhywbeth hanfodol iawn a dwi ddim yn cael atebion. Gobeithio felly mod i’n llwyddo gofyn y cwestiynau.”

Mae gwaith Michael i’w weld yn Galeri Betws y Coed o dydd Sul, Tachwedd 9ed.

Am ragor o wybodaeth ewch I galeribetwsycoed.co.uk/welsh/hafan.htm.

English

Mae'r drafodaeth ar gau.