Sioe Gelf

Philip Jones Griffiths

Ar 18 Mawrth eleni, bu farw’r ffotograffydd dogfennol byd enwog Philip Jones Griffiths. Sioe Gelf sy’n talu teyrnged i un o artistiaid pwysicaf a mwyaf dylanwadol Cymru erioed.

Darllen mwy am Philip Jones Griffiths

David Nash

Mewn coedwig yng ngogledd Cymru, mae darn arbennig o gelf a gafodd ei gychwyn ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Cafodd y Sioe Gelf wahoddiad arbennig i leoliad cyfrinachol yn nyffryn Maentwrog i weld y gwaith sy’n parhau i dyfu hyd heddiw.

Darllen mwy am David Nash

Anna Pritchard

Lliwiau, siapiau a newid mewn tymhorau sy’n ysbrydoli Anna Pritchard.

Darllen mwy am Anna Pritchard

Pryd o Dafod

Yr wythnos hon, bydd y bardd Eurig Salisbury yn rhoi ‘Pryd o Dafod’ i ni unwaith eto, gan ddangos i ni sut i greu Cynghanedd Sain drwy ddefnyddio india corn, bresych a riwbob.

Darllen mwy am Pryd o Dafod

Cory Band

Yr wythnos hon ar Gwerth Ein Pres, bydd Sioe Gelf yn ymweld â Band Cory yn y Rhondda.

Darllen mwy am Cory Band