Gweledol
Bu farw Philip Jones Griffiths, un o fawrion ffotograffiaeth y byd, y dyn aeth â Rhuddlan i Fietnam ac â erchylltra Fietnam at weddill y byd.
Bu farw Philip Jones Griffiths, un o fawrion ffotograffiaeth y byd, y dyn aeth â Rhuddlan i Fietnam ac â erchylltra Fietnam at weddill y byd.
Wedi degawd o ymchwil gwelodd Gwyddoniadur Cymru olau dydd ym mis Chwefror a dwy nofel a chyfrol o gerddi a oedd ar restr Llyfr y Flwyddyn 2008, gyda Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel gan Gareth Miles yn cipio’r brif wobr.
Bu farw un o’n prif gyfansoddwyr, Alun Hodinott, ac roedd Gai Toms yn ceisio ei orau i wneud popeth yn wyrdd gyda’r albym arloesol Rhwng y Llygru a’r Glasu.
Ym myd y theatr yn Nghymru roedd tri chynhyrchiad mawr gan y Theatr Genedlaethol, clasur Saunders Lewis, Siwan, Y Pair, addasiad Gareth Miles o The Crucible, Arthur Miller, a drama ddadleuol Aled Jones Williams, Iesu!.