‘Yr Ergyd Olaf’ bellach ar y silff.
Mae nofel gyntaf Llwyd Owen wedi cael ei disgrifio fel un o’r rhai mwya’ eithafol yn hanes llên Cymru, tra bod yr ail wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Yr Ergyd Olaf, yw ei nofel ddiweddara’, sy’n plymio i ganol puteindai, gangiau a thrais yn ne Cymru…