Taith Gerddorol Arwel Hughes
S4C Nos Iau Hydref 22, 20:25
Mae 2009 yn ganmlwyddiant geni’r cyfansoddwr Arwel Hughes sydd yn fwya adnabyddus yng Nghymru am yr emyn dôn Tydi a Roddaist. Ond fe gyfansoddodd llawer mwy na hynny ac mae nifer o’i weithiau gorau yn anhysbys.
Er mwyn dathlu’r canmlwyddiant penderfynodd ei fab, yr arweinydd Owain Arwel Hughes, fynd â Cherddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ar daith ac iddynt chwarae gwaith ei dad. 
“Dyma’r cyfle.[..]i’r cyhoedd [..]glywed be’ ma’n nhad wedi ’neud,” meddai Owain.
Magwyd Arwel Hughes yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam ac er nad oedd traddodiad cerddorol yn y teulu roedd yna draddodiadau cerddorol - a chrefyddol - cryf yn yr ardal, traddodiadau a gafodd ddylanwad mawr ar ei waith.
Roedd yn amlwg fod gan yr Arwel ieuanc dalent cerddorol enfawr ac mi gafodd y dalent hon ei meithrin gan un o’i frodyr, John. Un tro, yn ôl brawd arall, fe dorrodd y ddau i mewn i gapel er mwyn i Arwel gael ymarfer ar yr organ!
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach roedd Arwel yn cael ei dalu i chwarae’r organ yn Eglwys Westminster, Llundain, tra roedd yn astudio yn y Royal Collage of Music.
Yn y coleg cafodd ei ddysgu gan rai o bobl mwya blaenllaw’r byd cerddorol gan gynnwys Ralph Vaughn Williams a C. H. Kitson.
.
“Dwi’n aml yn trio meddwl be oedd o fel i’n nhad i adael rywle fel Rhos a mynd i Lundain ar ei ben ei hun [a] gwneud rywbeth fel cyfansoddi a chware’r organ lle ‘odd o ddim [..] mewn cerddorfa felly odd e ddim efo lot o bobl eraill,” meddai Owain
Am ei weithiau corawl ac am ei gyfansoddiadau ar gyfer cerddorfeydd y caiff ei gydnabod yn bennaf.
Yn y rhaglen cawn glywed darnau o Fantasia a Prelude for Orchestra, sy’n weithiau ar gyfer cerddorfa.
Ymhlith y goreuon o’i weithiau corawl mae Dewi Sant a Pantycelyn.
Meddai’r arweinydd Alun Guy, “Roedd ei waith e’ i gorau a cherddorfeydd yn arbenning iawn…bydd gwaith Arwel Hughes byth yn marw oherwydd ma’ ganddo gymaint o ragoriaethau.”
Arwel Hughes (Saesneg yn unig)
www.aureus.co.uk/arwelhughesmusic
Tuadlen Facebook Arwel Hughes (Saesneg yn unig)
www.facebook.com/pages/Arwel-Hughes/23076229700
Owain Arwel Hughes (Saesneg yn unig)
www.owainarwelhughes.co.uk/