Nos Iau Awst 13, S4C, 21:00
Mewn rhaglen arbennig mae Sioe Gelf yn dilyn grŵp o artistiaid a chrefftwyr – gyda’r gôf Angharad Pearce Jones wrth y llyw - wrth iddyn nhw adeiladu “maes eisteddfod yn Washington” mewn llai na phythefnos, cyn awr fawr Cymru yng Nghŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian.
Dathlu diwylliannau rhyngwladol yw pwrpas gŵyl y Smithsonian ac fe’i cynhelir yn flynyddol ar National Mall Washington. Mae’n denu miloedd o ymwelwyr i’r brifddinas ac eleni tro Cymru yw hi i wneud argraff.
Gyda dim ond un cyfle i greu safle cymleth, caboledig ar amser, dilynwn hynt a helynt criw Cymru wrth iddynt rhedeg allan o gerrig, anghofio’r cyfarwyddiadau nôl yng Nghymru, ymladd yn erbyn tywydd mawr a cholli ‘capel’ Kevin Burgess.
“Dyma’r flwyddyn gyntaf yn hanes yr ŵyl i wlad wadd ddod yma a dweud “Da’n ni eisiau bod yn gyfrifol am y safle”,” meddai Angharad.
“A dwi’n gweld y safle fel gwaith gosod enfawr. Y prif syniad sy’n rhedeg drwy’r gwaith [yw] dangos Cymru fel ffîn.”
Wrth i ddiwrnod agoriadol yr ŵyl nesáu, trymhau mae’r pwysau i gael pob dim yn barod. 
A fydd yna safle teilwng i’r degau o gerddorion, beirdd ac artistiaid sydd wedi teithio o Gymru i gynrychioli eu gwlad yn yr UDA?
Y Smithsonian yw’r sefydliad addysgol ac ymchwil mwyaf yn y byd, ac mae nifer helaeth o amgueddfeydd Washington DC dan ei reolaeth.