Sioe Gelf

Adrodd: Yr Hanes

S4C Nos Sul Gorffennaf 26, 20:00

Mae cyflwyno cerdd ar lafar i gynulleidfa wedi bod yn rhan o ddiwylliant Cymru ers y canol oesoedd. Adrodd 1

Cadwyd yr hen grefft yma’n fyw yn y gystadleuaeth eisteddfodol ‘adrodd’ ond yn 1992 newidiwyd yr enw i ‘llefaru’ a thrwy hynny, yn ôl llawer, perglwyd yr hen grefft.

Mewn cystadleuaeth adrodd roedd disgwyl i’r adroddwr gyfleu cerdd i’r gynulleidfa drwy ddefnyddio’r llais yn unig; mewn cystadleuaeth lafaru, yn ogystag ag ynghanu’r geiriau, gall cystadleuwyr symud ar y llwyfan a defnyddio porps.Adrodd 2

Alun Jones, Cadeirydd Pwyllgor Llefaru Canolog yr Urdd, oedd yn gyfrifol am y newid. “O ni eisiau fod llefaru yn mynd yn agosach at waith actor ar lwyfan…yr union un anghenion sydd i gyflwyno cerdd ac y mae actor yn defnyddio wrth gyflwyno ei linellau mewn drama,” meddai.
Ond drwy newid yr enw a chaniatáu symudiad a’r defnydd o brops mae rhai’n credu bod natur y gystadleuaeth wedi newid hefyd. Adrodd 3

“Os na fedrwch chi ddeud o’n dda heb symud”, meddai’r cyn-adroddwr Ellis Wyn Roberts, “gwell peidio ei ddweud o gwbl.”
“Wrth newid adrodd i lefaru bradychwyd canrifoedd o draddodiad yr iaith Gymraeg,” meddai’r beirniad a’r cyn-adroddwr Aled Gwyn. “A mae eisiau cael hynny’n ôl.”

Ond mae rai wedi croesawu’r newidiadau ac yn eu gweld fel moderneiddio anghenrheidiol. Adrodd 4

Meddai Carwyn John, enillydd un o brif wobrau’r byd llafaru sef Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, “Y peth mwyaf pwysig ydy’n bod ni’n symud ylmaen ac yn defnyddio gwahanol wrthddrychau ac ystumiau i gryfhau’r gair..ein bod ni’n moderneiddio, edrych ymlaen, nid edrych nôl. ”

Nid oes cyfieithiad

Mae'r drafodaeth ar gau.