Sioe Gelf

Therapi Celf : Mwy Na Geiriau

Therapi Celf : Mwy Na Geiriau S4C, Nos Fercher, Mehefin 17, 21:00

Mae celf yn codi calon a chyffwrdd ag enaid ond gall hefyd, mewn rhai achosion, wneud bywyd yn oddefadwy a chreu gobaith i gleifion sy’n teimlo bod eu byd ar ben.

Gudrun Jones“Weithiau mae’r teimladau sy’n cael eu profi yn sgîl diagnosis o salwch neu anawsterau iechyd meddyliol yn rhy gryf i roi mewn geiriau,” meddai’r therapydd celf Gudrun Jones, sy’n cael ei dilyn wrth ei gwaith ar gyfer rhifyn arbennig o’r Sioe Gelf. “Mae’n anodd eu mynegi mewn iaith.”

Art Therapy: More Than WordsMewn sesiynau therapi celf daw delweddau’n eiriau gweledol. Wrth fynegi profiadau fel lluniau - lluniau sy’n aml yn adlewyrchiad o sut y maen nhw’n gweld eu hunain - mae modd cynorthwyo cleifion i edrych tua’r dyfodol gyda hyder.

“Yn y lluniau cynnar mi o’n i’n peintio fy hun mewn llwyd neu frown - lliw dwi’n ei gasàu,” meddai Huw Thomas, sy’n byw gyda chyflwr distroffi’r cyhyrau.

Art Therapy: More Than Words“Ond yn y lluniau diweddarach dwi mewn coch a oren – lliwiau llachar, mwy positif. Mae hynny’n dangos i mi sut ma’n agwedd i tuag at fy hun wedi newid. A fy agwedd tuag at fywyd.”

Un arall sydd sydd wedi cael budd o sesiynau therapi celf wedi iddi ddarganfod fod canser arni ydi Nesta Edwards. “Mae canser arna i. Dwi’n mynd i farw,” meddai. “Dyna’r peth cynta sy’n dod i’r meddwl.”

“Mi oedd hi’n broses anodd ond gyda chymorth y therapi nes i ddod i ymlacio, a meddwl, Reit! Mae gobaith i mi eto.”

Tiffany Care“Gweithio gyda dychymyg y claf ydan ni yn y bôn,” meddai’r therapydd celf Tiffany Care. “Ac weithiau, oherwydd yr hyn mae o’n ei gynrychioli, mae gan y llun sy’n cael ei greu bŵer arbennig. Bron fod ganddo bŵer hudol.”

Am wybodaeth bellach am therapi celf ewch i http://www.baat.org/ (gwefan ddi-Gymraeg)

English

Mae'r drafodaeth ar gau.