Sioe Gelf

Y GLERORFA

Be ydi’r glerorfa? Tua 60 o gerddorion hen ac ifanc yn chwarae offerynnau traddodiadol Cymru, fel ffidlau, telynau, ffliwtiau, pibgorn, a’r sachbib, ac yn perfformio alawon traddodiadol eu naws mewn ffordd bywiog a hwyliog!

clerorfa2.jpg

Dwi’n cofio gweld nhw’n perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau llynedd, a jyst rhyfeddu bod ‘na gymaint ohonyn nhw ar y llwyfan!

clerorfa1.jpg

Dim copi, dim arweinydd, pawb ar eu sefyll (arwahan i’r telynau wrth gwrs), ac o ie, mae ‘na chydig o ganu a dawnsio hefyd!

Mae'r drafodaeth ar gau.