… Celf ar draws y ddinas yn Abertawe (Ebrill 18fed – Mai 10fed)
’syniad ydi bod dim raid i bobol Abertawe droedio i oriel draddodiadol i fwynhau gwaith celf. Ar lan yr afon Tawe, mewn canolfan siopa, ac ar hyd y strydoedd, mi oedd gwaith 8 o artistiaid rhyngwladol i’w gweld ar draws y ddinas.
Brîff yr artistiaid oedd i ymateb i bobol, diwylliant a thirlun Abertawe
Un o’r artistiaid oedd Megan Broadmewdow o Gymru, oedd wedi creu esgid enfawr dros 5 medr o hyd (“Ship Shape”) oedd yn arnofio yn y marina - trawiadol iawn!
Ges i ddiwrnod braf iawn yng nghwmni Owen Griffiths - artist ifanc o Abertawe a difyr oedd gweld yr amrywiaeth helaeth o weithie celf a sut oedd pob artist wedi ymateb mewn ffordd wahanol i’r ddinas.