Sioe Gelf

22/04/2009

Hetiau’n V&A

Mae’r gwneuthurwr hetiau Stephen Jones yn fyd enwog, ac wedi gweithio efo enwau mwya’r byd ffasiwn, o Vivienne Westwood i Christian Dior.

Mae o wedi dethol dros dri chant o hetiau ar gyfer yr arddangosfa yma, a rheini’n amrywio o rai hanesyddol, crefyddol, a swyddogol i rai ffasiynol. Yr het cynharaf yn yr arddangosfa ydi’r mwgwd Anubis o’r Aifft sy’n dyddio nol i 600C.C, a difyr oedd gweld sut mae hetiau o’r gorffennol wedi cael dylanwad ar gynllunwyr heddiw. Mae ‘na hetiau yno sydd wedi eu gwisgo gan enwogion, sydd wedi ymddangos mewn ffilmie, neu sydd wedi eu creu yn arbennig ar gyfer sioeau ffasiwn.

Mae Stephen Jones teimlo’n gryf iawn mai’r het yw’r atodiad perffaith, y geiriosen ar ben y gacen fel petai. Ac mae o’n sicr wedi gwneud i mi feddwl mwy am wisgo hetiau!

Mae'r drafodaeth ar gau.