BOIS GARN FACH
Os da chi’n teimlo bach yn isel, ac angen rhywbeth i godi’ch calon, gai awgrymu bod chi’n mynd am dro i Fferm Garn Fach yng Ngheredigion. Ges i lond bol o chwerthin iach tu allan yn yr haul braf, a mwynhau pob eiliad yng nghwmni’r teulu gwallgo’ a gwirion!
Mae ‘na chwech o blant yn y teulu i gyd, a ges i gyfarfod dau o’r brodyr - Rhodri a Hedd, Elin - y chwaer ieuengaf, a Meleri – cariad Rhodri.
Fel criw, mae nhw’n mynd ati i greu sgetsys, dramau a ffilmie, a’r cyfan wedi ei ysbrydoli gan yr hyn sydd o’u cwmpas ar y fferm. Comedi cefn gwlad ar ei orau.
Am flas o’r hwyl a’r ffwlbri, ewch draw i’w gwefan, www.tvni.org.uk
SHANI RHYS JAMES
Dwi wrth fy modd efo gwaith Shani Rhys James, ac roedd cael bod yn ei chwmni yn ei stiwdio ger Llangadfan yn blesur pur. Mae ei dawn a’i thalent fel artist yn amlwg, ac mae’n ddynes hyfryd, difyr, a siaradus tu hwnt, ac yn berson agored iawn hefyd.
Mae ei phaentiadau diweddara’ yn anhygoel, a’r bwriad rwan ydi cynilo arian, yn y gobaith ryw ddiwrnod, y bydd gen i waith Shani Rhys James yn addurno un o’r waliau yn y ty!