I gyd-fynd â’r rhaglen Cofio T. Llew sydd yn cael ei darlledu ar S4C am 20:00 nos Sul, Ionawr 25, bydd cyfweliad cyfan Myrddin ap Dafydd â T. Llew Jones ar gael yma.
Yn y rhan gyntaf o’r cyfweliad treiddgar hwn o 2002 cawn glywed am gred T. Llew yn yr ‘hen gof’ sydd wedi cael ei etifeddu o’r cenedlaethau cynt, am ofergoelion ac am ei hoff chwedl, chwedl Llyn y Fan Fach.
Nid oes cyfieithiad