Sioe Gelf

Nos Fercher 10/12 am 21:35. S4C Digidol 16/12 am 10:45.

Saunders Lewis v Andy Warhol

kino.jpgMae ffilm ddogfen newydd, Saunders Lewis v Andy Warhol , yn cynnwys ffwtej sydd heb gael ei weld o’r blaen o’r bandiau Ffa Coffi Pawb, Datblygu a Y Cyrff .

Diwylliant bandiau roc Cymreig o 1989 hyd 1998 ydi ffocws y darn, a hynny ar ffurf casgliad o ffilmiau byrion o’r cyfnod sydd wedi eu plethu i greu un cyfanwaith - rhyw fath o ‘Frankenstein’s Monster’, yn ôl Emyr.

“Nid croniclo hanes oedd y bwriad,” meddai. “Mae’r ffilm yn dod o bersbectif personol iawn gan fod lot o’r delweddau yn rai dwi wedi creu neu saethu fy hun.”

Hon yw trydedd film Emyr Glyn Williams, cyfarwyddwr y label arloesol Ankst Musik. Mae’r teitl yn adlewyrchu’r prif ddylanwadau creadigol arno: syniadau chwyldroadol y ddau sy’n peri iddyn nhw rannu’r llwyfan.

Bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf mewn noson arbennig yng Ngaleri Caernarfon yn mis Ionawr 2009.

Meddai Emyr: “Y peth mwyaf pwysig i fi ydy mod i wedi gallu bod yn ran o yrfa’r cerddorion a’r unigolion yma.”

Kino Ankst

Nid oes cyfieithiad

Mae'r drafodaeth ar gau.