Mae albwm ddiweddaraf Gai Toms yn canolbwyntio ar themâu yn ymwneud â’r amgylchedd, ond penderfynodd y cerddor o Danygrisiau fynd â’r cysyniad un cam ymhellach.
‘Rhwng y Llygru a’r Glasu’ yw prosiect cysyniadol cyntaf Gai Toms, a’r albwm cyntaf iddo ryddhau ar ei label ei hun ‘Sbensh’, felly roedd o’n benderfynol i wneud yn siwr fod y dull o gynhyrchu’r albwm - o’r dechrau i’r diwedd – yn bod mor garedig â phosibl i’r amyglchedd.
Yn ôl y cyn-aelod o Anweledig, sy’n gerddor ar ei liwt ei hun; “I fyw yn wyrdd, mae’n golygu mynd yn ôl at wreiddia’, a symleiddio petha’…Dwi isio codi’r pryderon ‘ma drwy gyfrwng cerddoriaeth.”
Yn y rhaglen hon, byddwn yn dilyn hynt a helynt Gai wrth iddo greu drum-kit o hen sbwriel, ail-gylchu meicroffonau a chynllunio clawr ar gyfer yr albwm gan ddefnyddio hen fagiau te a phlisgyn cnau.

Byddwn hefyd yn cael cyfle prin i daro cipolwg ar y broses o gyfansoddi wrth i Gai geisio llunio cân yn crisialu ein hagwedd tuag at yr amgylchedd.
“Rhaid i ni fod ychydig yn hunanol i oroesi… ond dyna ‘di’r peth, de. Mae’r gennyn hunanol sydd ynon ni i gyd… mae o ‘di mynd dros ben llestri,’ meddai, wrth iddo geisio rhoi trefn ar ei feddyliau ei hun.
Ond wrth i Gai ymlafnio i lynnu wrth ethos yr albwm, daw wyneb yn wyneb â nifer o gymhlethdodau a chaiff ei egwyddorion eu profi i’r eithaf wrth iddo wynebu realaeth y byd modern.
Sut mae mynd ati i ddarganfod cwmnïau cynhyrchu CDs sy’n ymwybodol o effaith ôl-troed carbon ar y ddaear? Oes modd recordio cân gyfan heb gyfrannu dim at y twll yn yr oson? A pham nad yw amselenni trafnidiaeth gyhoeddus yn caniatáu i bobl deithio o Flaenau Ffestiniog i Fethesda cyn hanner dydd?