Eleni, bydd y sylw yn troi at Gaerdydd wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol gyrraedd y brifddinas. Ond mae un brodor o’r ddinas ac un o nofelwyr disgleiriaf y genedl yn honni mai nad nodweddion amlwg Caerdydd sy’n ysbrydoli’r artistiaid sy’n byw yno heddiw.
Byddwn yn dilyn Llwyd Owen ar wibdaith ar gefn ei feic wrth iddo deithio o amgylch Caerdydd a chyfarfod nifer o artistiaid y brifddinas ar ei ffordd. Bydd yn holi sut mae’r brifddinas yn dylanwadu ar eu gwaith ac yn ysbrydoli eu creadigrwydd.
Mae Llwyd yn sicr bod y ddinas yn ddylanwad enfawr ar ei waith ei hun ac mae ei ddwy nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau a Ffydd Gobaith Cariad, a gipiodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2007, wedi eu gosod yn y brifddinas, yn ogystal â darnau o’i drydedd nofel, Yr Ergyd Olaf.
“Yn wahanol i’r mwyafrif o bobl, nid y pethau amlwg sy’n ymddangos ar daflenni twristiaeth a chardiau post sy’n fy ysbrydoli i a nifer fawr o bobl greadigol eraill sy’n byw a bod yn y ddinas,” meddai.

“Fel rhywun sydd wedi tyfu lan ym myd dosbarth canol parchus Cymry Caerdydd, beth sy’n fy niddori i yw gweld sut mae’r byd yna’n gwrthdaro ag ochr dywyll, is-fyd y ddinas,” meddai.
Yn ystod y rhaglen, bydd yn archwilio’r thema yma ymhellach ac yn trafod ei dylanwadau gydag artistiaid ‘tywyll eu naws’ eraill fel ei hen ffrind, y cerddor Tom Raybould, a’r nofelydd Lloyd Robson.
Bydd hefyd yn holi Geraint Jarman am ddylanwad y brifddinas ar ei yrfa gerddorol gyda Jarman yn datgelu sut y dylanwadodd ac y cyfoethogodd amrywiaeth ethnig y ddinas ei gerddoriaeth, a chyfrannu at y ‘ffrwydrad’ reggae ynghanol y 70au. Bydd Llwyd hefyd yn holi’r cerddorion Gareth Bonello a Cate Le Bon am ddylanwad y ddinas ar y traddodiad canu gwerin Cymreig.

Un arall o artistiaid cyfoes Caerdydd fydd yn cyfrannu at y rhaglen yw’r gof Nia Wyn Jones sy’n cynllunio a chreu gweithiau metal gan gyflenwi rhai o brif siopau’r stryd fawr fel John Lewis a Liberty. Dim ond ar ôl iddi ddychwelyd i Gaerdydd yn dilyn cyfnod yn y coleg yn Wolverhampton a Llundain, a gweld y brifddinas fel lle hollol wahanol, y teimlodd fod naws diwydiannol y ddinas yn dylanwadu ar y ffordd y mae hi’n gweithio.
“Wrth i ddiwydiant bellhau ac wrth i ni weld cymaint mae’r ddinas yn datblygu nawr, mae’n biti mewn ffordd ein bod yn colli rhywfaint bach o’n treftadaeth ni,” meddai. “Ond mae yna ysbryd newydd yng Nghaerdydd nawr ac mae’n tyfu yn lle gwych i artist sydd am sefydlu ei hun,” ychwanega.
Ar ddiwedd y dydd, a’i daith yn dirwyn i ben, tybed sut bydd Llwyd yn crynhoi ffrwyth ei ymchwil? Ydy Caerdydd yn taflu ei chysgod dros ei thrigolion creadigol – ac i ba raddau mae’r brifddinas yn dylanwadu ar gelfyddyd Cymru heddiw?