Y cysylltiad rhwng pêl-droed a’r celfyddydau ydy testun rhifyn arbennig o’r Sioe Gelf sy’n cael ei gyflwyno gan gyn-bêldroediwr Newcastle United a Chymru, Malcolm Allen.
Mae Malcolm yn teithio o’i bentref genedigol, Deiniolen ger Llanberis, i Fangor, Caerdydd, Manceinion a Salzburg, er mwyn dysgu mwy am ddylanwad gêm fwyaf poblogaidd y byd ar weithgareddau ym mhob maes o gelfyddyd. Mae’r rhaglen hefyd yn gwneud taith sy’n cychwyn mor gynnar â’r ddegfed ganrif, wrth weld sut mae pêl-droed wedi ysbrydoli beirdd, cerddorion, dramodwyr a phob math o bobl greadigol ym mhob cwr o’r byd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys ymweliad arbennig â Salzburg yn Awstria, ac i garnifal o bêl-droed a chelfyddyd mewn dinas sy’n enwog iawn am ei diwylliant. Roedd y dathliadau celfyddydol yn ystod twrnament Ewro 2008 yn cynnwys arddangosfa gelf o’r enw 4-4-2 gan yr artistiaid Martin Stock ac Ilona Griss, arddangosfa oedd nid yn unig yn dathlu’r Gêm Hardd, ond yn cynnwys themâu uchelgeisiol am sut y gall pêl-droed gynnig arweiniad cymdeithasol a gwleidyddol llawer ehangach.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys sgwrs gyda Dr Lowri Roberts, a gwblhaodd ddoethuriaeth gyda’r teitl “Chwaraeon mewn llenyddiaeth Gymraeg”. Mae gwaith Lowri yn dangos cyfeiriadau cynnar iawn at y gêm, yn ogystal â’i dylanwad mwy diweddar. A bydd Malcolm yn cyfarfod y beirdd Llion Jones a Jason Walford Davies, gan drafod cerdd arbennig a ysgrifennwyd gan Llion er mwyn cyfarch Jason am ei lwyddiant yn ennill y Goron yn Eisteddfod Casnewydd yn 2004, cerdd sy’n ei gymharu gydag arwyr tîm diguro 2003-4, a oedd yn cynnwys sêr fel Dennis Bergkamp, Patrick Vieira a Thierry Henry. Bydd cyfle prin i weld y prifeirdd yn arddangos eu sgiliau pêl-droed, yn ogystal â’u dawn barddoni.

Ceir ymweliad hefyd ag Old Trafford, wrth i’r cefnogwr Manchester United pybyr Dewi Rhys drafod pêl-droed a Drama, a bydd Gary Slaymaker yn herio Malcolm i gêm gystadleuol iawn o bêl-droed bwrdd, wrth ddadansoddi cysylltiad y gamp efo’r byd ffilm.
Dydy cerddoriaeth ddim yn cael ei hanwybyddu chwaith, gyda sylw arbennig i waith Geraint Jarman, a bydd Malcolm hefyd yn ymweld â Chanolfan Lowry yn Salford, er mwyn bwrw golwg ar y darlun pêl-droed drytaf yn y byd, a darganfod cysylltiad arbennig rhwng y gwaith yma gan L.S. Lowry a’i ddyddiau fel chwaraewr gyda Newcastle United a Kevin Keegan.
“Mi oedd y daith yma yn agoriad llygad go iawn”, meddai Malcolm. Mae croeso rwan i bawb arall ymuno yn y daith.