Fel prif gynllunydd dodrefn i’r siop stryd fawr ‘Habitat’, mae gwaith Bethan Gray yn cael ei edmygu mewn cartrefi ar draws Prydain a thu hwnt.
Ond dim ond un perchennog yn unig fydd yn cael yr anrhydedd o eistedd yn ei champwaith diweddaraf, gan fod y ferch ifanc o Gaerdydd wedi ymgymryd â’r sialens o gynllunio un o eiconau pwysicaf barddoniaeth Cymru - cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mewn rhifyn arbennig o’r Sioe Gelf - Y Gadair, dilynir Bethan Gray trwy’r broses o greu ei chadair gan edrych yn ôl ar hanes cadeiriau eisteddfodol a’r modd y meant yn adlewyrchu ffasiwn dodrefn ar hyd y blynyddoedd.

“Pan gefais gynnig cynllunio’r gadair ar gyfer Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch 2008, roedd yn anrhydedd mawr,” meddai Bethan sy’n 32 mlwydd oed ac wedi ei magu yn y brifddinas. “Mae’r gadair yn bwysig iawn ac mae ‘na lot o bwysau i ddod lan gyda rhywbeth diddorol.”
Cychwynnodd Bethan ei gyrfa gyda’r siop Habitat wedi iddi gipio gwobr a noddwyd gan y cwmni yn arddangosfa New Designers i raddedigion yn Islington, Llundain. Erbyn hyn hi yw prif gynllunydd dodrefn y cwmni ac er bod ei swyddfa yn Llundain mae ei gwaith yn mynd â hi i wledydd yn Asia, i’r Eidal ac i Slofenia yn rheolaidd.
“Mi wnes i tipyn o ymchwil ar hen gadeiriau i weld beth oedd pobl eraill wedi ei wneud yn y gorffennol, cyn penderfynu ar y cynllun terfynol. Mae’n llawer symlach ‘na nifer o gadeiriau’r gorffennol,” ychwanegodd.
Yn y rhaglen bydd cyfle i gael peth o hanes rhai o gadeiriau enwocaf yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n nodedig eu dyluniad a’u gwneuthuriad. Ymhlith y degau o gadeiriau mae cadair ‘Shanghai’ a gipwyd gan Gwenallt yn 1926, y gadair fodern a wnaed o fformica gwyn a gyflwynwyd yn 1970, ac o bosib y gadair fwyaf dadleuol enillwyd gan Myrddin ap Dafydd yn Esiteddfod Tyddewi yn 2002.

Yn ogystal, bydd cyfraniadau gan Dr Sioned Williams, Curadur Dodrefn Sain Ffagan a chyfweliad prin gyda Gerald Williams, nai i Hedd Wyn, sy’n taro golwg fanwl ar y Gadair Ddu a grewyd yn gelfydd gan ffoadur o wlad Belg, Eugene Vanfleteren.
Fydd cynllun Bethan yn cyflawni ei dyheadau? A fydd hi’n cael ei phlesio pan aiff draw i Sir Benfro at y gwneuthurwr Alex Macdonald i weld ei champwaith gorffenedig am y tro cyntaf?