Sioe Gelf

S4C Nos Sul Rhagfyr 20, 19.00

Gŵyl Ffenest Siop

Gwyl Fenest SiopA stryd fawr Bangor yn llawn o siopwyr y Nadolig ymunodd Lisa Gwilym â nhw ar gyfer digwyddiad arbennig ac annisgwyl i rai.

Nid pawb oedd yn disgwyl gweld yr hyn welso nhw yn ffesnestri rhai o’r siopau. Fel pob stryd fawr mae yna ambell i siop wedi cau ym Mangor.

Eleni, diolch i Brifysgol Bangor a’r mudiad Pontio sy’n hyrwyddo digwyddiadau theatrig, cafodd ambell i ffenest wag ei llenwi â lliw a symudiad. Perfformiadau gan wahanol artistiaid a grwpiau theatr o’r ddinas oedd yno.

A Theatr Gwynedd wedi hen gau roedd yn gyfle i brofi fod bywyd theatrig i Fangor o hyd ac yn ffordd o wneud siopa yn brofiad llai poenus nag arfer.

http://www.pontio.info/cy

Nid oes cyfieithiad

Mae'r drafodaeth ar gau.