Therapi Celf : Mwy Na Geiriau S4C, Nos Fercher, Mehefin 17, 21:00
Mae celf yn codi calon a chyffwrdd ag enaid ond gall hefyd, mewn rhai achosion, wneud bywyd yn oddefadwy a chreu gobaith i gleifion sy’n teimlo bod eu byd ar ben.
“Weithiau mae’r teimladau sy’n cael eu profi yn sgîl diagnosis o salwch neu anawsterau iechyd meddyliol yn rhy gryf i roi mewn geiriau,” meddai’r therapydd celf Gudrun Jones, sy’n cael ei dilyn wrth ei gwaith ar gyfer rhifyn arbennig o’r Sioe Gelf. “Mae’n anodd eu mynegi mewn iaith.”
Mewn sesiynau therapi celf daw delweddau’n eiriau gweledol. Wrth fynegi profiadau fel lluniau - lluniau sy’n aml yn adlewyrchiad o sut y maen nhw’n gweld eu hunain - mae modd cynorthwyo cleifion i edrych tua’r dyfodol gyda hyder.
“Yn y lluniau cynnar mi o’n i’n peintio fy hun mewn llwyd neu frown - lliw dwi’n ei gasàu,” meddai Huw Thomas, sy’n byw gyda chyflwr distroffi’r cyhyrau.
“Ond yn y lluniau diweddarach dwi mewn coch a oren – lliwiau llachar, mwy positif. Mae hynny’n dangos i mi sut ma’n agwedd i tuag at fy hun wedi newid. A fy agwedd tuag at fywyd.”
Un arall sydd sydd wedi cael budd o sesiynau therapi celf wedi iddi ddarganfod fod canser arni ydi Nesta Edwards. “Mae canser arna i. Dwi’n mynd i farw,” meddai. “Dyna’r peth cynta sy’n dod i’r meddwl.”
“Mi oedd hi’n broses anodd ond gyda chymorth y therapi nes i ddod i ymlacio, a meddwl, Reit! Mae gobaith i mi eto.”
“Gweithio gyda dychymyg y claf ydan ni yn y bôn,” meddai’r therapydd celf Tiffany Care. “Ac weithiau, oherwydd yr hyn mae o’n ei gynrychioli, mae gan y llun sy’n cael ei greu bŵer arbennig. Bron fod ganddo bŵer hudol.”
Am wybodaeth bellach am therapi celf ewch i http://www.baat.org/ (gwefan ddi-Gymraeg)